Croeso! // Welcome!
Lle mae syniadau newydd yn llifo
〰️ Fresh ideas, flowing together 〰️
Lle mae syniadau newydd yn llifo 〰️ Fresh ideas, flowing together 〰️
Croeso i Gofod Glas
– lle mae creadigrwydd yn dod â phobl a dŵr at ei gilydd.
Yn Nyffryn Conwy, da ni’n dod â phobl,at ei gilydd i archwilio sut mae dŵr croyw yn siapio ein bywydau, ein diwylliant a’n dyfodol.
Trwy weithio hefo’n gilydd, dysgu a rhannu syniadau, da ni’n dod o hyd i ffyrdd newydd o fyw ochr yn ochr â’n hafonydd, ein llynnoedd a’n nentydd. Mae creu cysylltiadau, tanio chwilfrydedd ac annog creadigrwydd yn bwysig i ni – gan fod pob diferyn â stori i’w hadrodd.
Welcome to Gofod Glas
– a space where people and water meet in creative ways.
Based in the Conwy Valley, we bring people together to explore how freshwater shapes our lives, our culture, and our future.
Through collaboration, learning, and sharing ideas, we’re discovering new and sustainable ways to live alongside our rivers, lakes, and streams. Gofod Glas is about connection, curiosity, and creativity – because every drop has a story to tell.
Blog
Gwahoddiad i gymryd rhan mewn ymchwil am ddŵr
Helo, Iwan dwi, rydw i’n un o griw Gofod Glas, ac hefyd yn astudio BSc Seicoleg Cymdeithasol gyda'r Brifysgol Agored ar hyn o bryd. Dwi’n chwilio am gyfranogwyr sy'n fodlon cymryd rhan yn fy ngwaith ymchwil sydd yn edrych argysylltiad pobol â dŵr croyw yn dalgylch Afon Conwy.
//
Invitation to take part in water related research
Hello, I'm Iwan, one of the Gofod Glas team, and also currently studying BSc Social Psychology with the Open University. I'm looking for participants who are interested in taking part in my research looking at people's connection to fresh water in the river Conwy catchment area.
Llên gwerin, hen wybodaeth Gymreig a syniadau personol am berthyn i dir ac i le.
Folk tales, old Welsh knowledge and personal ideas about relationship with land and place
Gan/by Rhodri Owen
Yn Llyfrgell Llanrwst, rydyn ni’n eich gwahodd i gydweithio â ni fel cyd-guraduron, gofyn cwestiynau a dwyn ynghyd wybodaeth leol sy'n dangos sut mae'r gymuned a'r byd naturiol wedi'u cydgysylltu'n ddwfn.
In Llanrwst Library, we invite you to collaborate with us as co-curators, ask questions and bring together local knowledge that shows how the community and the natural world are deeply entangled.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ‘Gwisg yr Afon’ wedi tyfu - gan gasglu syniadau, meddyliau a chwestiynau ar gyfer yr afon ar hyd y ffordd, gan symud tuag at sut y gallem ni, cymuned y dyffryn, helpu ein hafonydd, pyllau, corsydd, llynnoedd a nentydd i lifo’n lân ac yn iach i’r dyfodol.
*******
Over the last year, the ‘River Dress’ has grown - gathering ideas, thoughts and questions for the river along the way, moving toward how we, the valley community, might help our rivers, ponds, bogs, lakes and streams to flow clean and healthy into the future.
Cyflwynwyd 18 syniad gwych ac amrywiol i Gofod Glas y mis hwn, yn dilyn eingalwad am syniadau am bethau y mae pobl eisiau ddarganfod am ddŵr yn Nyffryn Conwy.
18 brilliant and varied ideas were submitted to Gofod Glas this month, following our call for ideas about things people want to discover about freshwater in Dyffryn Conwy.
Dyma ein digwyddiadau penwythnos ‘ma a dros yr wythnosau nesa - gan gynnwys dro hydrefol, samplo dwr a gweithdai creadigol. Gobethio eich gweld yn fuan!
Here are our upcoming events this weekend and over the next few weeks - including autumnal walks, water sampling and creative workshops. Hope to see you there!
Yda chi eisiau gwybod be sydd yn y dŵr o’n cwmpas?
Da ni eisiau gwybod mwy am ddŵr croyw Dyffryn Conwy a da ni angen eich help!
Mi wnawn ni brofi eich dŵr croyw i weld pa mor iach a glân ydy o. A’r unig beth sydd angen i chi ei wneud yw casglu ychydig bach o ddŵr croyw o nant, afon, cors, pwll neu lyn a mi wnawn ni ei brofi. Am ddim.
Want to find out what’s in freshwater?
We’re starting on a process of discovery in the Conwy catchment area and we need your help!
We’re offering to test your freshwater to find out how healthy and clean it is. All you need to do is collect a small amount of freshwater from a stream, river, bog, puddle, pond or lake and we’ll test it. And we’re doing it for free.
Dyddiad cau newydd!: Dydd Llun 29 Medi 2025
Be ydach chi eisiau darganfod neu wneud am ddŵr croyw? Rydan ni’n cynnig £250 ac ein cefnogaeth i wireddu eich syniad yn Nyffryn Conwy…
New closing date: Monday 29 September 2025
What do you want to discover or do about freshwater?
We're offering £250 and our support to make your idea happen in the Conwy Valley…
Be ydach chi eisiau darganfod neu wneud am ddŵr croyw?
Rydan ni’n cynnig £250 ac ein cefnogaeth i wireddu eich syniad yn Nyffryn Conwy…
What do you want to discover or do about freshwater?
We're offering £250 and our support to make your idea happen in the Conwy Valley…
Diolch i bawb ddaeth i'r lansiad, ac i’r tîm adeiladu oracl cwrwgl . Thanks to everyone who came to the launch, and to the conversational coracle building team.
Pwy hoffech chi ei wahodd i gael sgwrs yn y cwrwgl? Pa gwestiynau hoffech chi iddyn nhw eu trafod?
Who would you invite to have a conversation in the coracle? Which questions would you like them to discuss?
Diolch i bawb ymunodd â ni dros y penwythnos cyntaf!
Thank you to everyone who joined us over the first weekend!
Ymwelwch â ni yn ein lleoliad newydd, ar Y Sgwâr, Llanrwst ar ddyddiau Sadwrn drwy mis Mawrth 11yb - 4yh
Visit us at our new location, on the Square, Llanrwst on Saturdays throughout March 11am - 4pm
Archwilio perthnasoedd pobl ifanc â dŵr croyw!
Ymunwch â’r Cyfleuwr (Curadur David Cleary) ag Ymddiredolaeth Natur Gogledd Cymru a helpwch ni i greu Cydweithfa Ieuenctid ar gyfer Gofod Glas.
Rydym yn chwilio am bobl ifanc 14-17oed….
Exploring young people's relationship with freshwater!
Join Conveyor (Curator David Cleary) and North Wales Wildlife Trust and help us imagine a Youth Collective for Gofod Glas.
We’re looking for young people aged 14-17 ….
Dach chi eirioedd meddwl am yr afon fel beth byw, gydag ysbryd, hunaniaeth, ac efallai hyd yn oed?
Draddodiadol, mae llawer o ddiwylliannau brodorol, gan gynnwys ein rhai ni, wedi rhoi llawer o bwys i’n lle o fewn y byd naturiol ond yn anffodus, mae’n teimlo weithiau fel bod cysylltiad dynol â bodau byw eraill yn y byd hwnnw wedi mynd yn dameidiog.
*******
Do you ever think of the river as a living thing, with a spirit, a soul… and maybe even rights?
Many indigenous cultures, including ours, have traditionally put great store on our place within the natural world but sadly, it sometimes feels that human connection with other living beings in that world has become fragmented.
Rydym am geisio adeiladu fflyd fechan o Gwryglau Conwy ac yn chwilio am bobl a hoffai gymryd rhan. Mae cymryd rhan AM DDIM. Cynhelir y gweithdai yn Llanrwst ym mis Mawrth 2025.
//
We want to try building a small fleet of Conwy Coracles and are seeking people who would like to take part. Participation is FREE.. The workshops will take place in Llanrwst in March 2025.
Holi’r Dyffryn! Beth hoffech chi ei wybod am ddŵr croyw yn ardal Dyffryn Conwy? Ychwanegwch at ein rhestr o gwestiynau … ac ychwanegwch unrhyw atebion
Ask the Valley! What would you like to know about freshwater in the Conwy Valley area? Add to our list of questions … and add any answers
Mae Gofod Glas yn brosiect sy’n archwilio’n greadigol berthynas pobl â dŵr croyw yn Nalgylch Afon Conwy.
Gofod Glas is a project creatively exploring people’s relationship with freshwater in the Conwy River Catchment area.
Diweddariadau - Updates
Hoffem eich diweddaru am y prosiect a digwyddiadau yn Nalgylch Conwy.
Ticiwch y blwch ‘Cofrestrwch am newyddion a diweddariadau’ isod
We’d like to keep you updated about the project and events in the Conwy Catchment area.
Please tick the ‘Sign up for news and updates’ box below
Byddwn yn cadw eich manylion cyswllt ond ni fyddwn byth yn eu rhannu ag unrhyw un arall heb eich caniatâd. Gallwch unsubscribe unrhyw bryd
We will keep your contact details but will never share them with anyone else without your permission. You can unsubscribe at any time
Beth mae dychymyg pobl ifanc sy'n byw gydag afonydd yn ei ddweud wrthym am gyflwr y byd?
//
What do the imaginations of young people who live with rivers tell us about the state of the world?