Amdanon ni // About us
Mae dŵr yn cysylltu popeth: pobl, tirwedd, hanes, a'n dyfodol.
Mae Gofod Glas yn gweithio efo cymunedau lleol, pobl greadigol, ymchwilwyr, unigolion a sefydliadau i:
Archwilio sut mae dŵr croyw yn siapio ein diwylliant, ein hamgylchedd, a'n bywyd bob dydd
Arwain ar gydweithio rhwng gwyddoniaeth, celf, a phrofiad bywyd.
Dysgu gyda'n gilydd, gan greu cronfa wybodaeth sy'n perthyn i bawb.
Ysbrydoli pobl i weithredu, fel y gallwn fyw’n well gyda'n hecosystem dŵr croyw ac archwilio sut all ein dyfroedd fod yn lân ac yn iach.
Mae ein ffordd ni o weithio yn chwareus, yn gynhwysol, ac yn agored. Does gennym ni ddim yr holl atebion - ond da ni’n gwybod, trwy wrando, gofyn cwestiynau, a rhannu safbwyntiau, y cawn ni syniadau sy'n arwain at newid go iawn.
Ein Nod
Ein nod ydy creu gofod lle gall chwilfrydedd am ddŵr lifo – gan gysylltu pobl, sbarduno creadigrwydd, ac ysbrydoli dyfodol cynaliadwy i Ddyffryn Conwy a thu hwnt.
Da ni eisiau i bawb deimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu cynnwys, a'u bod yn hyderus i rannu eu llais. Gyda'n gilydd, mi allwn ni ail-ddarganfod ein perthynas â dŵr croyw, ac archwilio sut y gall dŵr croyw dalgylch Afon Conwy fod yn lân ac yn iach.
Pwy sy'n gwneud hyn?
Mae Gofod Glas Conwy yn bartneriaeth rhwng Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Dyffryn Dyfodol a Chyfoeth Naturiol Cymru. Rydym yn gweithio gyda phobl greadigol, efo cefnogaeth gan Sefydliad Esmée Fairbairn i archwilio a thrafod thema dŵr croyw gyda chwilfrydedd.
Pryd mae'n digwydd?
I ddechrau, fel rhan o gam datblygu'r prosiect, o fis Ebrill 2024 i fis Ebrill 2025. Rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn cyllid pellach gan Esmée Fairbairn i barhau â'r prosiect o fis Gorffennaf 2025 - Gorffennaf 2027.
Pam ydych chi'n gwneud hyn?
Rydym eisiau archwilio sut y gall dŵr croyw dalgylch afon Conwy fod yn lân ac yn iach. Mae dŵr yn chwarae rhan hanfodol ym mywyd pawb, mae popeth byw yn dibynnu arno, ac mae perthynas bodau dynol â dŵr yn ymddangos yn llai cysylltiedig nawr nag erioed.
Water connects everything: people, landscapes, history, and the choices we make for the future.
Gofod Glas work with local communities, creatives, researchers, individuals and organisations to:
Explore how freshwater shapes our culture, environment, and daily lives.
Collaborating across disciplines.
Learn together, bringing together different perspectives and building knowledge that belongs to everyone.
Inspire action that leads to more sustainable ways of living with our freshwater ecosystems and explore how our waters can be clean and healthy.
Our approach is playful, inclusive, and open. We don’t have all the answers – but we know that by listening, asking questions, and sharing perspectives, we can shape ideas that ripple out into real change.
Mission Statement
Our mission is to create a space where curiosity about water can flow freely – connecting people, sparking creativity, and inspiring sustainable futures for Dyffryn Conwy and beyond.
We want everyone to feel supported, included, and empowered to share their voice. Together, we can re-discover our relationship with freshwater and explore how the Conwy River catchment freshwater can be clean and healthy.
Who’s doing this?
Gofod Glas Conwy is a partnership between North Wales Wildlife Trust, Dyffryn Dyfodol and Natural Resources Wales. We are working with a team of creatives, with support from the Esmée Fairbairn Foundation to explore and discuss the theme of freshwater with curiosity.
When is it happening?
Initially, as part of a development phase of the project, from April 2024 to April 2025. We are delighted to have received further funding from Esmée Fairbairn to continue the project from July 2025 - July 2027.
Why are you doing this?
We want to explore how the Conwy river catchment freshwater can be clean and healthy. Water plays a vital part in all of life, all living things depend on it, and humans’ relationship with water seems less connected now than ever.
Tîm Creadigol//Creative team
A collective of creatives
Iwan Williams, Katie Trent, Lindsey Colbourne, Lin Cummins, Rhodri Owen and Conveyor
Mae gennym ddiddordeb mewn dysgu gyda’n gilydd am sut y gallai dulliau creadigol helpu i ymgysylltu â chymunedau. Felly rydym yn gweithio gyda phobl greadigol a all weithio gydag eraill mewn ffyrdd penagored, gan ddefnyddio creadigrwydd fel ffordd o ymgysylltu a darganfod gyda'n gilydd.
Mae’r pwyslais ar adael i bethau ddod i’r amlwg, yn hytrach na chael canlyniadau a bennwyd ymlaen llaw, gan ddefnyddio creadigrwydd i greu lle ar gyfer sgwrsio a chyd-ddarganfod.
We are interested in learning together about how creative methods might help engage with communities. So we are working with creatives who can work with others in open-ended ways, using creativity as a way of engaging and finding out together.
The emphasis is on letting things emerge, rather than having pre-determined outcomes, using creativity to create space for conversation and co-discovery.
Gofod Glas Llanrwst
Esmée Fairbairn Foundation aims to improve our natural world, secure a fairer future and strengthen the bonds in communities in the UK. We unlock change by contributing everything we can alongside people and organisations with brilliant ideas who share our goals.
Diweddariadau - Updates
Hoffem eich diweddaru am y prosiect a digwyddiadau yn Nalgylch Conwy.
Ticiwch y blwch ‘Cofrestrwch am newyddion a diweddariadau’ isod
We’d like to keep you updated about the project and events in the Conwy Catchment area.
Please tick the ‘Sign up for news and updates’ box below
Byddwn yn cadw eich manylion cyswllt ond ni fyddwn byth yn eu rhannu ag unrhyw un arall heb eich caniatâd. Gallwch unsubscribe unrhyw bryd
We will keep your contact details but will never share them with anyone else without your permission. You can unsubscribe at any time