Cymryd rhan // Take part
gofodau chwilfrydig yn arwain at ddŵr glan
〰️ Clean water begins with curiosity 〰️
gofodau chwilfrydig yn arwain at ddŵr glan 〰️ Clean water begins with curiosity 〰️
Darganfod be sydd yn y dŵr /
Discover what’s in the water
Yda chi eisiau gwybod be sydd yn y dŵr o’n cwmpas? Da ni eisiau gwybod mwy am ddŵr croyw Dyffryn Conwy a da ni angen eich help!
Mi wnawn ni brofi eich dŵr croyw i weld pa mor iach a glân ydy o. A’r unig beth sydd angen i chi ei wneud yw casglu ychydig bach o ddŵr croyw o nant, afon, cors, pwll neu lyn a mi wnawn ni ei brofi. Am ddim.
//
Do you want to know what is in the water around us? We’re starting on a process of discovery in the Conwy catchment area and we need your help!
We’re offering to test your freshwater to find out how healthy and clean it is. All you need to do is collect a small amount of freshwater from a stream, river, bog, puddle, pond or lake and we’ll test it. And we’re doing it for free.
Oracl Cwrwgl Conwy
Mae'r Oracl Cwrwgl Conwy ar gael i'w ddefnyddio mewn digwyddiadau lleol, ac fel lle i sgwrsio am ddŵr croyw.
Hefyd dan ni’n chwilio am gymunedau ar hyd Afon Conwy a'i hisafonydd a hoffai adeiladu Cwrwgl Conwy.
The Conwy Conversational Coracle
The Conwy Conversational Coracle is available for use at local events, and as a space for conversation about freshwater.
We are also seeking communities along the Conwy River and its tributaries who would like to build a Conwy Coracle.
Dro Dŵr// Water Walk
Ein cyfres Dro Dŵr teulu gyfeillgar ydy Gofod Glas lle gall chwilfrydedd am ddŵr lifo'n rhydd – gan gysylltu pobl, tanio creadigrwydd, ac ysbrydoli dyfodol fwy cynaliadwy i Ddyffryn Conwy a thu hwnt.
//
Our family friendly Water Walk series is a Gofod Glas (Blue Space) where curiosity about water can flow freely – connecting people, sparking creativity, and inspiring sustainable futures for the Conwy Valley and beyond.
Edau’r Afon //Threads of the River
Hoffech chi fod yn rhan o brosiect tecstilau cymunedol cydweithredol a chreadigol, i gyd am ein Dyffryn Conwy hardd a'r dŵr sy'n llifo yno? /
//
Would you like to be part of a collaborative and creative community textile project, all about our beautiful Conwy Valley and the water that flows there?
Diweddariadau - Updates
Hoffem eich diweddaru am y prosiect a digwyddiadau yn Nalgylch Conwy.
Ticiwch y blwch ‘Cofrestrwch am newyddion a diweddariadau’ isod
We’d like to keep you updated about the project and events in the Conwy Catchment area.
Please tick the ‘Sign up for news and updates’ box below
Byddwn yn cadw eich manylion cyswllt ond ni fyddwn byth yn eu rhannu ag unrhyw un arall heb eich caniatâd. Gallwch unsubscribe unrhyw bryd
We will keep your contact details but will never share them with anyone else without your permission. You can unsubscribe at any time
Llifeiriau
Ydach chi'n rhannu enw efo afon, llyn neu ffynnon yn Nyffryn Conwy? Rydw i'n awyddus iawn i archwilio'r cysylltiad rhwng gwreiddiau, perthyn a dŵr yn yr ardal, yn ogystal a dod i wybod mwy am eich perthynas â dŵr yn gyffredinol
Do you share a name with a river, lake or spring in Dyffryn Conwy? I'm eager to explore the connection between roots, belonging and water in the area, as well as knowing more about your relationship to water in general.
Gwnewch rywbeth yn eich cymuned
A oes rhywbeth yr hoffech ei wneud yn eich ardal? Oes gennych chi ddiddordeb arbennig (e.e. pysgota) yr hoffech chi weithio gydag eraill arno? Neu rywbeth yr ydych yn poeni amdano? Neu hoffech chi gael gwybod?
Do something in your community
Is there something you’d like to do in your area? Do you have a particular interest (eg fishing) that you’d like to work with others on? Or something you are concerned about? Or would like to find out?
£250 am eich syniad / £250 for your idea
Be ydach chi eisiau darganfod neu wneud am ddŵr croyw?
Rydan ni’n cynnig £250 ac ein cefnogaeth i wireddu eich syniad yn Nyffryn Conwy…
What do you want to discover or do about freshwater?
We're offering £250 and our support to make your idea happen in the Conwy Valley…
Gweithio gyda chreadigrwydd
Working with creativity
Rydym yn chwilio am bobl a hoffai weithio gyda’u cymunedau ar gyfer dŵr croyw glân ac iach yn Nyffryn Conwy mewn ffyrdd creadigol. Mae gennym ddiddordeb mewn dysgu gyda’n gilydd am sut y gallai dulliau creadigol helpu i ymgysylltu â chymunedau
We are seeking people who would like to work with their communities for clean and healthy freshwater in Dyffryn Conwy in creative ways.
We are interested in learning together about how creative methods might help engage with communities