Edau Gofod Glas Threads:

Conwy - Tweed - Dolgarrog - Dolwyddelan


Gwisg yr Afon // River Dress Llun: Mark McNulty


Dyma ddiweddariadau ar ein gweithgareddau a'n cyfleoedd dros yr Hydref
// Here are updates on our Autumn activities and opportunities


Dolgarrog

Arddangosfa Edau’r Afon // Threads of the River Exhibition

24.10.26 - 14.11.26
Cog, Dolgarrog LL32 8JS

Mae’r Gwisg yr Afon ac Edau’r Afon yn waith celf tecstilau sy'n esblygu ac yn gydweithredol, ac sy'n archwilio ein perthynas â dŵr.

Ymunwch â ni am sgwrs trwy bwytho, gyda'r afon.

Dychmyga'r afon: Sut ydan ni’n dy gyffwrdd… a sut wyt ti’n ein cyffwrdd ni?

Rhan o THREADS - arddangosfa Cog

//

The River Dress and Threads of the River are evolving and collaborative textile artworks exploring our relationship with water.

Join us for our exhibition and conversations in stitch.

Imagine the river: How do we touch you... and you touch us?

Part of the Cog exhibition THREADS

 

Gweithdy Edau’r Afon // Threads of the River Workshop

31.10.26 (1-4pm)

Cog, Dolgarrog

Dewch draw i gyfrannu at ein gwaith celf tecstilau cydweithredol.

Gallwch ddisgwyl syniadau ffres, gwaith gwnïo hamddenol a gwnïo â pheiriant mewn arddull rydd.

Am ddim; croeso i bobl o bob oed.

Does dim angen profiad o wnïo.

Galwch heibio unrhyw bryd rhwng 1yp a 4yp.

Rhan o brosiect tecstilau cymunedol Gofod Glas: Edau'r Afon.

//


Come along and contribute to our collaborative textile artwork.

Expect freshwater ideas, slow stitch and free-machine sewing.

Free, all ages welcome.

No sewing experience needed.

Drop-in between 1pm - 4pm

Part of the Gofod Glas: Threads of the River community textile project


Dolwyddelan

Gobeithiwn gario’r sgwrs am ddŵr croyw ymlaen mewn ffyrdd creadigol yn Nolwyddelan, yn cynnwys adeiladu cwrwgl Ioan Glan Lledr. Mwy o fanylion yn fuan, neu cysylltwch i gymryd rhan (gweler yma beth sydd wedi bod yn digwydd yn Nolwyddelan efo Rhodri Owen hyd yn hyn)

//

We hope to carry on the conversation about fresh water in creative ways in Dolwyddelan, including building a Ioan Glan Lledr coracle. More details soon! Or get in touch to get involved (see here for what has been happening with Rhodri Owen in Dolwyddelan so far)


 

Sgyrsiau Cwrwgl // Conwy // Coracle conversations

Mae Oracl Cwrwgl Conwy bellach ar gael ar gyfer sgwrs!

Oes gennych chi fater yr hoffech chi ei archwilio o wahanol safbwyntiau? Ymunwch â ni a’r Eog Doeth am sgwrs yn y cwrwgl. Gallwch hefyd enwebu pobl ar gyfer sgwrs am ddŵr croyw yn y cwrwgl. Os hoffech i ni ddod i'ch cymuned neu ddigwyddiad, neu i enwebu sgwrs, anfonwch e-bost at Lindsey.

//

The Conwy Conversational Coracle is now available for conversation!

Do you have an issue you’d like to explore from different points of view? Join us and the Salmon of Knowledge for a conversation in the coracle. You can also nominate people for a conversation about freshwater in the coracle. If you would like us to come to your community or event, or to nominate a conversation, please email Lindsey


 

Efeillio’n araf gyda’r Tweed // Tentatively twinning with the Tweed

Rydym yn edrych ymlaen at gymryd rhan yng Ngŵyl Afon Tweed “Connecting Threads - over, under, round and through” ar y 30ain a’r 31ain o Hydref, ym Melrose, Yr Alban. Byddwn yn cynnal cysylltiadau cychwynnol rhwng Afon Conwy ac Afon Tweed, yn ogystal â threfnu dro dwr ar hyd yr afon a sgyrsiau mewn cwrwgl.

Rhan o Ŵyl Afon Tweed ‘Connecting Threads’ 2026: Prosiect creadigol sy’n ymateb i Afon Tweed, ei gynefinoedd, ei hecolegau, ei chymunedau a’i diwylliant.

We are looking forward to our participation at the River Tweed “Connecting Threads - over, under, round and through” Festival 30th & 31st Oct, Melrose, Scotland. We will be tentatively twinning the rivers Conwy and Tweed, and hosting a water walk and coracle conversations.

Part of the Connecting Threads Tweed River Festival 2026: A creative project responding to the River Tweed, its habitats, ecologies, communities and culture


Next
Next

Be’ sydd yn y Dŵr? What's in the Water? Llanrwst 17.6.26