Llên gwerin, hen wybodaeth Gymreig a syniadau personol am berthyn i dir ac i le
Rhodri Owen
English
Wedi ei selio ar sgwrs gan Rhodri Owen yn Pontio, Bangor fel rhan o brosiect Jess Balla - I’r Tarddiad I’r Tonnau.Darn wedi ei addasu o sgwrs gan...
Dwi’n teimlo’r angen i chwilota, darganfod a gwneud rhywbeth gyda'n Hen Wybodaeth Gymreig yma yng Nghymru, ac yn enwedig yn fy ardal enedigol o amgylch y Migneint ac Ysbyty Ifan.
Er bod rhai o'r straeon wedi'u dogfennu'n dda mewn amrywiol lyfrau ar draws yr oesoedd; mae llawer o'r straeon wedi mynd yn angof gyda'r cenedlaethau.
Mae llawer o straeon ac enwau sy'n gysylltiedig â thir a dŵr a drosglwyddwyd o genhedlaeth i genhedlaeth yn y Gymraeg, wedi cael eu disodli gan yr un grymoedd cyfalafol a threfedigaethol a newidiodd ein cymdeithas a'n hecoleg, yma ac mewn rhannau eraill o’r byd.
“Wrth wynebu hawliad tir gan y llywodraeth, gofynnodd henuriad Gitksan yn be sy’n cael ei alw’n British Columbia, “Os mai dyma eich tir chi, ble mae eich straeon?”
Ymhell yn yr ucheldir ac islaw mawndir helaeth y Migneint, rhennir Ysbyty Ifan yn ddau gan yr Afon Conwy. Mae'r Gonwy yn lledu ger Blaen y Coed, lle mae'r Serw yn ymuno â hi mewn lle a elwir yn Weirglodd y Telynorion.
Yn ôl y stori, hudwyd telynor i mewn i ogof wrth y fan lle mae’r Serw yn ymuno a’r Gonwy – cafodd ei ddenu yno gan gerddoriaeth y Tylwyth Teg ac yno y mae byth yn chwarae ei delyn. Ac wrth gwrs, gellir clywed y gerddoriaeth yno heddiw ar rai dyddiau.
Dydw i erioed wedi clywed y gerddoriaeth fy hun, nac erioed wedi dod o hyd i'r ogof chwaith – ond mae’r ddau yn sicr yn bodoli. Mae pysgotwyr a gwerinwyr anofergoelus yn dweud iddynt glywed y gerddoriaeth.
Er, nid ar goedd.
Yn yr un fan fwy neu lai, yn Nhrwyn Swch gerllaw, mae stori am Grimbilion y Tylwyth Teg sy'n gorffen gyda'r ddau blentyn o'r isfyd a gyfnewidiwyd yn cael eu taflu i ddŵr Afon Conwy oddi ar y bompren, a'r ddau fabi gwreiddiol yn cael eu dychwelyd i'r crud. Mae gan straeon Crimbil darddiad tywyll, a weithiau'n gysylltiedig ag anabledd neu salwch meddwl - a'r cyfnewid yn y crud yn ffordd gyntefig o esbonio hynny.
Ystyr y gair Swch yw aradr ac mae'n cyfeirio at y siâp a grëwyd lle mae’r ddwy afon yn cyfarfod.
Mae’n bosib bod y stori hon, a stori'r Telynor coll, yn ffordd o gadw plant Trwyn Swch a Blaen Y Coed rhag dyfroedd gwyllt y ceunant lle mae’r Afon Conwy yn llifo. Yr afon yn yr achos yma yw cartref y Tylwyth Teg.
Ymhell i lawr y dyffryn mae stori enwog Gwyber Wybrnant, y sarff ehedog fu’n creu terfysg ar hyd y dyffryn – stori sy'n gorffen gyda marwolaeth driphlyg yr arwr fel y rhagfynegwyd gan Ddyn Hysbys. Nid yw’r stori hon yn anhebyg i stori Myrddin Wyllt, gafodd ei droi yn Merlin yn ddiweddarach. Mae marwolaethau triphlyg yn fotiff Indiaidd, Celtaidd, Germanaidd a Rhufeinig ymysg eraill.
..
Nodwyd mewn erthygl papur newydd o'r bedwerydd ganrif ar bymtheg fod llyfr nodiadau wedi'i ddarganfod ym nenfwd y tŷ yn Hafodyredwydd, Penmachno a fod y llyfr yn ymwneud â'r mynachlog a'r hosbis hynafol yn Ysbyty Ifan.
Fe'i hysgrifennwyd yn Lladin ac yn ôl y sôn roedd yn gyfrif o'r stociau pysgod a gludwyd o'r Eidal i Lyn Conwy gan y Rhufeiniaid. Ni allwn ddod o hyd i unrhyw sôn am hyn yn unman arall, ac ni glywodd neb a holwyd am beth o'r fath. Mae'n ymddangos yn annhebygol ar sawl cyfrif, ond dwi wedi'i gynnwys yn fy llên gwerin personol fy hun o'r ardal serch hynny.
I lawr yr afon mae chwedl adnabyddus yr Afanc yn bodoli - roedd yr Afanc chwedlonol yn byw mewn pwll ar yr Afon Conwy a elwir yn Pwll Yr Afanc ac yn achosi llifogydd difrifol – yn y pen draw cafodd ei lusgo i ffwrdd gan Ychen Bannog gyda chadwyni haearn i Glaslyn ger Yr Wyddfa.
Roedd Ychen Bannog yn ychen cryf arallfydol, gyda Llyn Llygad Yr Ych ger Moel Siabod yn cael ei greu gan lygaid un o’r ŷch yn disgyn allan o’i ben – cymaint oedd yr ymdrechfa o lusgo’r Afanc ar y daith am Bwlch Rhiw’r Ychen ac ymlaen i Laslyn..
Heddiw, mae'r mawn yn nŵr Llyn Llygad Yr Ych neu Lyn Y Foel yn golygu bod math o frithyll brown yn y dŵr sy'n unigryw i’r llyn.
Mae'r llyn ei hun yn gwagio i Afon Ystumiau ac ymlaen i’r Lledr sy'n llifo trwy Ddolwyddelan ac ymlaen i gwrdd ag Afon Conwy.
Roedd yr afanc, yr anifail llythrennol, wedi cael ei ddifa yn y tir hwn pan gafodd y stori hon ei thrawsgrifio, ac mae'r disgrifiadau dychmygol ohono wedi'i wneud yn greadur tebyg i grocodeil gyda dannedd, cennau - ac o faint enfawr. Pam oedd angen dyfeisio'r creadur hwn... os y cafodd ei ddyfeisio o gwbwl?
Sylwch nad yw'r Afanc yn cael ei ladd yn y stori, ond yn hytrach cael ei symud i rywle arall - gwers, neu rybyudd am effaith symud natur trwy rym efallai?
Mae'r sôn am y cadwyni haearn yn ei gysylltu'n fras â'r Tylwyth Teg a'r tabŵ chwedlonol o gyffwrdd â haearn. Dydi’r Tylwyth Têg ddim i’w cyffwrdd â haearn!
Ar gyrion Ysbyty Ifan mae ffynnon Chalybeate a Swlffwr a arferai fod yn fan cyfarfod ychydig genedlaethau yn ôl. Credid bod gan y dŵr rinweddau arbennig ac roedd yn arbennig o dda ar gyfer cryd cymalau a thrin defaid ar ddwylo. Roedd yn hysbys hefyd fod y dŵr yn y cafn yn yr efail yn y pentref - yn gyfoethog o’r deunyddiau haearn a roid ynddo i oeri - hefyd yn iachâd ar gyfer defaid ar y croen.
Bu’n arferiad tua cenhedlaeth yn ôl i blant Tŷ Nant gerllaw gael eu bedyddio â dŵr y ffynnon.
Fel rhan o’m gwaith gyda Gofod Glas, dechreuais siarad â physgotwr yn Nolwyddelan – Eurwyn Pencafna.
Ffimiais Eurwyn yn cawio pluen bysgota â ddefnyddiwyd ar y Lledr ers degawdau – y Bajar Goch, a enwir felly oherwydd ei fod yn defnyddio ffwr o fochyn daear a darnau o blu alarch wedi'u lliwio'n goch llachar.
Recordiais gyfweliad rhagarweiniol efo Eurwyn hefyd efo’r bwriad o ddod yn ôl i holi mwy.
Yn drist iawn, bu farw Eurwyn ychydig wythnosau'n ddiweddarach.
Bu Eurwyn oedd yn 75 oed yn pysgota’r Lledr, a'i hoff afon Afon Ystumiau, am y rhan fwyaf o'i oes.
Mae'r cwestiynau pellach yr oeddwn am eu gofyn i'r ceidwad gwybodaeth yma (er na fyddai wedi galw ei hyn yn hynny) yn parhau heb eu hateb, er hoffwn eu cyflwyno i'r gymuned yn Nolwyddelan ynghyd a’r sgwrs gyfan i'w trafod ymhellach.
Roedd fy ngwaith blaenorol gyda Gofod Glas yn ymwneud â chyfweld llond llaw o bobl wedi'u henwi ar ôl afonydd neu lynnoedd yn ardal Afon Conwy – sef Eidda, Serw, Euarth a Llugwy – mwy neu lai i gyd o gefndiroedd amaethyddol. Aed â nhw am dro at lannau eu hafonydd neu lynnoedd a gofynnais iddynt beth oedd eu cysylltiad â'r dŵr, ymhlith cwestiynau eraill.
Gofynnais hefyd y cwestiwn newydd-boblogaidd "A yw afon yn fyw?" – heb unrhyw gyd-destun a heb unrhyw ragymadrodd am y llyfr Robert MacFarlane o'r un enw, Is A River Alive? a oedd ar y pryd heb ei gyhoeddi.
Atebodd ddau “ydi” i’r cwestiwn, ac atebodd ddau “na”. Roedd pawb ar y cyfan yn eithaf sicr.
Cred bob un hefyd bod “eu hafon nhw” yn lân. Maen nhw’n cario’r enw’n falch.
Roedd pentref, a melin, yn Ysbyty Ifan ymhell cyn i Arglwydd Penrhyn gael ei ddwylo meinion ar y lle wrth gwrs, ond cafodd y tai cerdyn post a welwch yma rwan eu hadeiladu gan Stâd Penrhyn tua 1870, pan oedd y byddigions yn talu ciperiaid i fagu grugieir i’w saethu ynghanol mawn a brwyn y Migneint.
Daeth fy nheulu ar ochr fy nhad yma bedair cenhedlaeth yn ôl, ar geffyl a throl o Abergeirw. Seiri coed yr holl ffordd yn ôl - Griffith Owen yn dod yn saer troliau yn y pentref, a fy nhad Huw Selwyn Owen yn parhau â'r grefft honno ac yn symud ymlaen i wneud dodrefn ar ôl gweld diwedd oes saer gwlad ac saer olwynion. Yn y pen draw, dilynais innau y grefft fel gwneuthurwr dodrefn hefyd. Yn byw ac yn gweithio wrth yr un afon a oedd yn troi'r olwyn ddŵr oedd yn ganolog i fywyd cymunedol y cyfnod. Dios felly bod y dyfroedd lleol a’u llên gwerin cysylltiedig o ddiddordeb mawr i mi.
Cyn y 1500au, y bont dros Afon Cletwr oedd y ffin ddwyreiniol i blwyf Ysbyty Ifan, a oedd ar y pryd yn fan noddfa dan warchodaeth mynachod Sant Ioan – y llety yno yn warchodfa i bererinion ar eu ffordd i groesi'r Swnt i Ynys Enlli. Wrth groesi'r afon i Ysbyty, roedd y gyfraith yma ar wahân.
“Caled fu ar lawer gŵr cyn croesi Pont Y Cletwr.”
Arweiniodd hyn, os yw tirfeddiannwr arall i’w gredu - Wynn o Wydir, at Ysbyty Ifan yn dod yn “ogof lladron a llofruddion” wrth i’r bandits lleol fanteisio ar y cysegr hwn.
Dyma hefyd pam y galwodd yr arwr gwerin modern a’r reslar proffesiynol Orig Williams, ei hun yn El Bandito. Ganwyd Orig yn Ysbyty.
Yn Awst 1846 bu storm anferthol dros yr ardal a baich y storm waethaf uwch Ysbyty Ifan – y wlad wedi’i boddi â dŵr am filltiroedd o gwmpas. Ar yr un noson daeth mellt i lawr simdde tŷ ar Ynys Môn a tharo cwpl oedd yn eistedd o flaen y tân oddi ar eu cadeiriau.
Y noson honno, uwchben Y Gylchedd, byrstiodd y cymylau. Achosodd y llif dirlithriad y medrir gweld ei greithiau heddiw. Hyrddiwyd y ddaear fawnog i lawr y dyffryn i lawr Nant Llam Gwrach am yr Afon Cletwr, gan gario 4 o wartheg Cerrigellgwm efo’r llif ac ysgubo'r rhan fwyaf o adeiladwaith Ffatri Wlân Cletwr a safai y tu hwnt i'r bont ar lan yr afon– yr olwyn ddŵr, gwartheg a phopeth - i gyd i lawr i’r Afon Conwy.
Ar yr un noson, mae stori sy'n cael ei hanner cofio yn lleol am fydwraig ar ei ffordd ar draws y mynydd o'r Bala i Ysbyty i ofalu am fam feichiog, gan orfod cysgodi am ei bywyd rhag y storm gynddeiriog o dan y mawn.
O ysgrif goffa mewn papur newydd o 1916, mae sôn am un Jane Roberts “yn y stormydd y bu’n byw yma, cafodd ei geni ar noson y tirlithriad mawr ar Y Gylchedd ym 1846”.
Enwyd Caletwr, sy'n golygu afon galed – gan gyfeirio at y llif cyflym – ar ddechrau'r 2000au fel un o afonydd glanaf Cymru. (er na allwn ddweud sut mae hi yno rwan).
Does dim byd wrth y bont heddiw heblaw hen dyrbin trydan a osodwyd yn y 1960au. Dim arwydd o ffatri wlân, na'r diwydiant bach a dyfodd o'i gwmpas heblaw am y llond llaw o dai, yn adfeiliedig ac fel arall, ar ben y bryn. Dim bandits chwaith.
Ond mae Afon Cletwr yn dal i lifo.