Lansiad Oracl Cwrwgl Conwy Conversational Coracle Launch
Lansiad - Launch : 29.3.25
Diolch i bawb ddaeth i'r lansiad, ac i’r tîm adeiladu Oracl Cwrwgl // Thanks to everyone who came to the launch, and to the Conversational Coracle building team:
James Carpenter, Ilsa Elford, Vicky Atkinson, Dave Rimmer, Urtha Felda.
Beth nesaf? // What next?
A allai Oracl Cwrwgl Conwy ein helpu i gael sgyrsiau da am ddŵr croyw? // Could the Conwy Conversational Coracle help us have good conversations about freshwater?
Mae cwryglau yn cynrychioli cysylltiad agos rhwng pobl a'r amgylchedd, wrth eu gwneud a'u defnydd. Ac roedd cwrwgl Conwy yn unigryw (wel, yn anarferol o leiaf) gan ei fod wedi'i gynllunio ar gyfer dau berson.
A allai Cwrwgl Conwy fod yn ofod neu’n symbol perffaith ar gyfer sgyrsiau dŵr croyw? Ar gyfer pysgota am neu ‘gasglu’ safbwyntiau gwahanol?
Pwy hoffech chi ei wahodd i gael sgwrs yn y cwrwgl? Pa gwestiynau hoffech chi iddyn nhw eu trafod?
Coracles represent an intimate connection between people and the environment, in their making and in their use. And the Conwy coracle was unique (well, unusual at least) in that it was designed for two people.
more about the history of the Conwy Coracle here
Could the Conwy Coracle be the perfect space or symbol for freshwater conversations? For fishing for or ‘gathering in’ different perspectives?
Who would you like to invite to have a conversation in the coracle? Which questions would you like them to discuss?
Rydym am geisio adeiladu fflyd fechan o Gwryglau Conwy ac yn chwilio am bobl a hoffai gymryd rhan.
We want to try building a small fleet of Conwy Coracles and are seeking people who would like to take part.
Mwy am y digwyddiadau Gofod Glas Llanrwst // More about the Gofod Glas Llanrwst events: