Eich syniadau am dŵr Dyffryn Conwy // Your freshwater ideas for Dyffryn Conwy



Cyflwynwyd 18 syniad gwych ac amrywiol i Gofod Glas y mis hwn, yn dilyn ein galwad am syniadau am bethau y mae pobl eisiau ddarganfod am ddŵr yn Nyffryn Conwy. Dysgwch fwy isod!

18 brilliant and varied ideas were submitted to Gofod Glas this month, following our call for ideas about things people want to discover about freshwater in Dyffryn Conwy. Find out more below!


***Scroll down for English

Eich syniadau Gofod Glas

Roeddem mor falch o weld cymaint o amrywiaeth o syniadau, i gyd am weithio mewn ffyrdd gwahanol, a phawb rannodd syniad yn teimlo’n gryf bod angen cymryd camau i wella ansawdd dŵr trwy gydweithio hefo eraill.

  • Mae rhai o’r syniadau yn ymwneud â gwella ymwybyddiaeth o bwysigrwydd afonydd i fywyd gwyllt a llesiant pobl – neu sut i wella ansawdd dŵr ein afonydd a’n llynnoedd.

  • Roedd eraill eisiau gwella ymwybyddiaeth o lefydd y gellir nofio ynddynt, neu fapio ble mae modd cael mynediad at ddŵr.

  • Rhai yn dymuno ymgyrchu – i lanhau ein afonydd o gemegion sy’n deillio o gartrefi neu ail-gychwyn cynllun dwr isel i warchod yr eog a’i daith i fyny’r afon.

  • Ac eraill wedyn yn dymuno gwneud prosiectau creadigol ger ein afonydd a’n llynnoedd, neu awydd edrych ar berthynas ein cymunedau gyda’r afonydd a sut maen nhw wedi llywio ein hanes.  

Roedden ni mor falch o'ch syniadau,, roeddem yn awyddus i gefnogi pawb a gyflwynodd syniad mewn rhyw ffordd neu gilydd. A dyna sy’n wych am brosiect Gofod Glas – gan mai hanfod y prosiect ydy bod yn hyblyg, a gallu ymateb i bethau sy’n ymgodi – roedd y rhyddid yna i gefnogi mwy o brosiectau na’r bwriad gwreiddiol.

Mi fyddwn ni’n rhannu mwy am y syniadau gafodd eu cyflwyno fel y byddan nhw’n cael eu datblygu.

Os nad ydych chi eisoes wedi cofrestru i dderbyn newyddion diweddaraf a cyfleoedd eraill i gymeryd rhan, cofiwch gofrestru.

 

Your Gofod Glas ideas

We were delighted to see such a wide variety of ideas. Although each aimed to work in different ways, everyone shared a strong belief that we need to take action to improve water quality through collaboration:

  • Some focused on raising awareness of the importance of freshwater for wildlife and people’s wellbeing, or on finding ways to improve the quality of our rivers and lakes.

  • Others suggested promoting places where people can enjoy swimming or mapping public rights of access to water.

  • Some wanted to campaign – to clean up our rivers from household-derived chemicals, or to restart a low-water scheme to protect salmon and their journey upstream.

  • While others proposed creative projects by rivers and lakes or wanted to explore river rights, the relationship between our communities and waterways, and how they have shaped our history.

We were so impressed with your ideas, we are keen to support everyone who submitted an idea in one way or another. And that’s what makes the Gofod Glas project so special – its flexibility and ability to respond as new ideas emerge meant we had the freedom to support more projects than originally planned.

We’ll be sharing more about the ideas as they develop.

If you have not already signed up to receive the latest Gofod Glas news and opportunities to get involved, you can register here


Digwyddiad nesa: Dro Dŵr Afon Lledr Water Walk 15.11.25

Next
Next

Digwyddiadau'r hydref - Autumn events