Paratoi i gasglu eich sampl dŵr
Sut i gasglu eich sampl
Cyn i chi fynd darllenwch y cyfarwyddiadau hyn yn llawn.
Dewiswch safle unrhyw le yn Nyffryn Conwy. Gallai fod yn nant, afon, cors, pwll, llyn. Gwnewch yn siŵr ei fod ar hawl tramwy cyhoeddus neu gofynnwch am ganiatâd gan y tirfeddiannwr.
Edrychwch ar ragolygon y tywydd a pheidiwch â chynnal y profion yn ystod llifogydd
Samplwch yn ystod oriau golau dydd yn unig
Dewch â rhywun gyda chi neu dywedwch wrth rywun am eich cynlluniau, gan gynnwys y lleoliad
Sicrhewch fod gennych chi gynllun rhag ofn bod argyfwng
Paciwch neu wisgwch eitemau diogelwch hanfodol; ffôn symudol, diod, esgidiau cadarn, dillad addas ar gyfer y tywydd
Paciwch eich cynhwysydd i gasglu eich dŵr. Gwnewch yn siŵr ei fod yn lân, yn sych a bod ganddo gaead.
Dewiswch safle diogel
Dewiswch lan afon wastad, sefydlog er mwyn gallu casglu dŵr yn hawdd heb bwyso dros y dŵr
Peidiwch â dewis glan afon lle mae da byw ac anifeiliaid eraill
Gwnewch yn siŵr bod y dŵr yn ddigon dwfn i gasglu dŵr heb darfu ar y gwaelod mwdlyd.
Samplu'n ddiogel
Peidiwch â mynd i mewn i'r dŵr. Gwnewch yn siŵr bod gennych le cadarn i sefyll wrth gasglu sampl dŵr ac yna symudwch i ffwrdd o'r dŵr
Golchwch eich dwylo yn drylwyr ar ôl samplu
Labelwch eich sampl.
Lleoliad: Defnyddiwch y cyfeirnod grid neu What3Words neu Google
Ysgrifennwch y dyddiad a’r amser
Eich enw a'ch manylion cyswllt
Getting ready to collect your water sample
How to collect your sample
Before you go read these instructions fully.
Choose a site anywhere in the Conwy Valley. It could be a stream, river, bog, puddle, pond, lake. Make sure that it is on a public right-of-way or ask landowner permission
Check the weather forecast and avoid testing during flooding
Only sample during daylight hours
Bring someone with you or tell someone about your plans, including location
Have a plan in case of emergency
Pack or wear safety essentials; mobile phone drink sturdy footwear appropriate clothing for the weather
Pack your receptacle to collect your water. Make sure it is clean, dry with a lid.
Choosing a safe site
choose a stable level bankside to allow easy water collection without leaning over the water
Avoid bankside shared by livestock and other animals
Make sure that the water is deep enough to collect water without disturbing the muddy bottom.
Sampling safely
Do not enter the water. Make sure you have a stable footing when collecting a water sample and then move away from the water
Wash hands thoroughly after sampling
Label your sample.
Location: Use the grid reference or what three words or Google
Write the date the time
Your name and contact details