Rhodri Owen: dilyn llif dŵr, lle ac atgofion Dyffryn Conwy
Mae Rhodri Owen wedi bod yn rhan o dîm creadigol Gofod Glas ers y dechrau yn 2024. Wedi ei fagu yn Nyffryn Conwy, mae wrth ei fodd yn sgwrsio a chlywed straeon gan drigolion lleol, gan ddysgu mwy am gysylltiad y gymuned gyda’r afonydd a’r llynoedd o’i gwmpas.
Cawsom sgwrs gyda Rhodri i ddysgu mwy am ei waith gyda Gofod Glas.
Oedd gen ti ddiddordeb mewn dŵr croyw cyn dechrau gweithio efo'r criw?
Ddim gymaint â sydd gen i rwan. Ces i'n magu ar lan yr Afon Conwy, a dilyn ei thaith i fyny ac i lawr y Dyffryn bob dydd am flynyddoedd i'r ysgol neu i weithio yn Llanrwst.
Dwi'n meddwl bod y dŵr o’m cwmpas wastad wedi bod yn yr isymwybod am bod y pentrefi a'r trefi ar hyd y dyffryn yn bodoli o'u herwydd. Mae'r diwylliant a'r gwaith a'r crefftau fu yma i gyd yn uniongyrchol gysylltiedig â hyn - o'r Migneint lawr i'r môr.
Felly dwi'n edrych ar Gofod Glas o'r ogwydd honno a pherthynas pobl efo lle drwy eu cysylltiad efo dŵr, a'u perthynas efo dŵr drwy eu cysylltiad efo lle. Ma'r diddordeb mewn "lle" wastad wedi bod yno, ond drwy Gofod Glas mae fy niddordeb mewn dŵr croyw wedi blaguro.
Fedri di sôn am y gwaith a'r fideos wyt ti wedi eu creu fel rhan o'r prosiect?
Mae wedi bod yn broses ara ar adegau a ro'n i'n trio tapio mewn i'r syniad yma o berthyn i le a dŵr, felly mi ddechreuais drwy gysylltu â phedwar o bobol sydd ag afonydd fel rhan o'u henwau personol, a wedyn mynd ar daith gerdded efo nhw at yr afon neu'r llyn neilltuol hwnnw, tra'n eu cyfweld ar fideo wrth fynd.
Nes i alw'r fideo yn Euarth, Eidda, Llugwy, Serw - yn ôl enwau'r rhai gymerodd ran ynddi. Doeddwn i ddim yn siŵr be i ddisgwyl rywsut achos mae'n gwestiwn eitha rhyfedd - be ydi dy berthynas di efo dŵr? A doedd yna ddim atebion anghywir wrth gwrs. Roedd o'n ddiddorol clywed yr atebion gwahanol a pha mor ddwfn oedd eu perthynas yn mynd.
Mi es ati wedyn i holi yn Nolwyddelan os oedd rywun yn gwybod unrhywbeth am bysgota (am fod pysgota yn arferiad cynhenid â pheth bri arno ar yr Afon Lledr sy'n rhedeg drwy'r pentre) a chael yr ateb i holi Eurwyn Pencafna.
Mi es at Eurwyn a ffilmio sgwrs fer ac yntau'n clymu pluen o'r enw y Bajar Goch gan obeithio dod yn ôl i ffilmio mwy efo fo, ond yn drist iawn bu farw ychydig wythnosau wedyn. Roedd ei wybodaeth am hanes a physgota yn yr ardal yn drysorfa, ond dim ond ryw fymryn oeddwn i'n ddigon lwcus o fedru ei glywed ganddo.
Felly yn amlwg roedd y ffilm yma yn newid ei ystyr wedi i Eurwyn ein gadael, a'r golygu a wnaed ar y ffilm yn adlewyrchu hynny. Mi ddangoswyd y ffilm yn Nolwyddelan i'r Gymdeithas Bysgota a chriw y sioe flodau gan godi mwy o sgyrsiau efo pysgotwyr y fro.
Protest Cymdeithas yr Iaith 1972
Ro'n i'n ddigon lwcus hefyd i gael ymweld â'r ysgol yno i ddangos y ffilmiau ond hefyd er mwyn ail-greu protest gan Gymdeithas yr Iaith yn erbyn pryniant rhannau o'r afon gan glybiau pysgota o Loegr - oedd yn prisio pysgotwyr lleol allan yn y broses.
Cynhaliwyd y brotest yn 1972 drwy dresmasu ar y tir dan sylw efo "gwialenni" bambŵ gardd efo cortyn ar ei blaenau gan ffugio pysgota. Dwn i ddim a ddaeth unrhyw beth o'r peth ond y pwynt ar y pryd oedd bod unrhywbeth sy'n gwanhau diwylliant lleol ardal Gymreig, megis pysgota, yn uniongyrchol wanhau'r iaith Gymraeg yn yr ardal hefyd.
Felly mi ail-greon ni hyn efo'r ysgol a'r artist Elly Strigner - gan greu cân brotest Cân Afon Lledr. Mi wnaethom newid pwynt gwreiddiol Cymdeithas yr Iaith ryw fymryn a gofyn os ydi afonydd efo llawer llai o bysgod ynddyn nhw, onid ydi hyn hefyd yn amddifadu diwylliant cynhenid lleol ac yn golygu lleihad yn nifer y siaradwyr Cymraeg o'r herwydd?
Iechyd yr afon, diwylliant, pobol ac yn ôl at iechyd yr afon ydi'r daith a fwriedir. Mae yna fwy o syniadau ar y ffordd.
Zine Llifeiriant gydag Elin Angharad
Ac yn dilyn y gwaith yma, credwyd Zine gydag Elin Angharad sy’n cwmpasu ychydig o’r gwaith ymchwil a wnaed ar y prosiect. Mae Elin yn arbeniwgwr Zine – sef llyfrynnau aml-gyfwng sy’n cael eu creu er mwyn rhannu straeon, gwaith a syniadau creadigol.
Be ydy'r peth gorau am weithio ar y prosiect?
Dwi wrth fy modd yn ymchwilio mewn i hanesion yr ardaloedd dan sylw, a ffeindio'r cysylltiadau yma sydd jysd dan yr wyneb a chreu rywbeth o amgylch hynny - atgyfodi pethau neu darganfod nhw o'r newydd. Dwi hefyd wrth fy modd yn gweithio efo'r criw creadigol a gweld sut mae eu trywydd nhw yn datblygu drwy gydol y prosiect - 'da ni'n gweithio yn unigol ond drwy'n gilydd hefyd.
Mae'r syniadau sydd wedi dod gan weddill y criw yn cynnwys yr Oracl Cwrwgl gan Lindsey Colbourne, sy'n ail-wneuthuriad o gwrwgl Conwy ac yn cael ei ddefnyddio fel gofod i gynnal sgwrs rhwng dau berson sydd ella yn anghytuno am rywbeth fel ffordd o ffeindio datrysiad.
Mae Gwisg yr Afon gan Lin Cummins a chriwiau yn Nolgarrog, ac ar draws y dyffryn, yn tyfu ac yn tyfu wrth i fwy o bobol ychwanegu cwestiynau i ofyn wrth yr afon ar y wisg;
Ac yna ffilm gan David Cleary a chriw ifanc yn Llyfrgell Llanrwst gafodd ei chreu yn fras o amgylch stori'r Afanc a pherthynas y plant efo'r afon Gonwy yn Llanrwst.
A be sy’n gret ydi bod o i gyd yn dechrau llifo i mewn i'w gilydd fel afonydd yr ucheldir yn ymuno â'r Gonwy.
Beth sydd ar y gweill yn y dyfodol efo Gofod Glas?
O'm safbwynt i dwi am ddod nôl at y ffilm wreiddiol a chreu rywbeth newydd o amgylch hynny, yn ogystal â chyd-weithio gyda Lindsey i adeiladu cwragl sgwrsio newydd yn Nolwyddelan.