Wyt ti awydd cadw cofnod creadigol o afon, nant neu lyn yn Nyffryn Conwy?

Would you like to creatively document a river, stream or lake in the Conwy Valley?

A hoffech chi fynd ati i ddogfennu’n greadigol un o afonydd, nentydd neu lynnoedd Dyffryn Conwy, drwy ei arsylwi’n rheolaidd a dod i ddeall sut mae’n newid dros amser ac ym mha ffyrdd?

Efallai drwy dynnu ffotograff o’r un lleoliad yn rheolaidd neu ei luniadu, ysgrifennu amdano, recordio sain, ffilmio, gwnïo neu ryw ffordd arall o gofnodi eich arsylwadau.

Nid oes gennym gynlluniau pendant o ran beth fyddwn ni’n ei wneud gydag unrhyw arsylwadau a rannwch, ond mae’n bosib y gallwn eu casglu a’u lletya ar ein gwefan, gan eu harddangos efallai pan fyddwn ni’n trefnu gweithgareddau a digwyddiadau wyneb yn wyneb. Rydym yn fwriadol hyblyg ynglŷn â sut caiff yr arsylwadau eu rhannu er mwyn gallu ymateb ac addasu i’r hyn y mae cyfranogwyr yn dod ar ei draws.

Would you like to creatively document a river, stream or lake in the Conwy Valley, through regular observation and discover how it changes over time and in what ways.

 Perhaps by regularly taking a photo from the same location or drawing it, writing about it, recording sound, filming, sewing or some other way to record your observation.

 We don’t have fixed plans about what we will do with any observations shared, but we could collate and host them on our website, potentially display them when we organise in-person activities and events.  We are purposely flexible about how the observations are shared to be able to respond and adapt to what participants find.

Pam rydyn ni’n gofyn am sylwadau?

Gall arsylwadau creadigol a rheolaidd fod yn ffordd dda o gysylltu â’n hafonydd a’n llynnoedd lleol a hefyd o gasglu data ansoddol gwerthfawr dros amser – sut fath o le ydy o, ei nodweddion, neu sut mae pobl yn ei brofi, yn hytrach na’i gyfrif â rhifau. 

Drwy eich arsylwadau mae’n bosib y byddwch yn meithrin cysylltiad emosiynol â’r afon neu’n datblygu archif ddiwylliannol amdani, neu fe allai arwain at berthnasedd amgylcheddol, er enghraifft, drwy dynnu ffotograffau neu wneud recordiadau o’r un man dros nifer o fisoedd neu flynyddoedd, gan greu llinell amser weledol a chlywedol. Gallai hyn amlygu newidiadau drwy’r tymhorau, erydiad i lannau’r afon, newidiadau yn lefelau’r dŵr, ac effeithiau digwyddiadau tywydd eithafol. Yn ogystal, mae’r rhai sy’n arsylwi’n rheolaidd yn aml yn sylwi ar newidiadau cynnil yn gynt nag y gall offer monitro ffurfiol wneud hynny. Gallai arsylwadau amlygu dŵr ffo amaethyddol, gordyfiant algâu, rhywogaethau o blanhigion goresgynnol, neu newidiadau ym mhoblogaethau’r bywyd gwyllt lleol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn monitro mwy ffurfiol (gwyddoniaeth dinasyddion) yna cysylltwch hefyd i drafod eich syniadau ac i weld a oes diddordeb mewn mathau eraill o fonitro.

Why are we asking for observations?

Creative and regular observations can be a good way to connect with our local rivers and lakes and also capture valuable qualitative data over time - what something is like, its attributes, or how people experience it, instead of counting it with numbers.

 Your observations may result in you having an emotional connection or developing a cultural archive to and about the river or it may result in environmental relevance for example, by taking photos or making recordings from the same spot over months or years creates a visual and audio timeline. This could reveal seasonal shifts, riverbank erosion, changes in water levels, and the effects of extreme weather events.  Additionally, regular observers often notice subtle changes before formal monitoring equipment does. Observations might highlight agricultural runoff, algal blooms, invasive plant species, or shifts in local wildlife populations.

 If you are interested in more formal data monitoring (citizen science) then also please get in touch to discuss ideas and see if there is interest in other types of monitoring.

Sut i gychwyn arni. I ddechrau gwneud arsylwadau creadigol o’ch nant leol, cadwch bethau’n syml a chanolbwyntiwch ar gysondeb. Dewiswch fan hawdd ei gyrraedd a phatrwm nad yw’n golygu gormod o ymdrech.

How to start To start making creative observations of your local stream, keep your setup simple and focus on consistency. Choose an easy-to-reach spot and a low-effort routine.

Lleoliad // Location

Rythm // Rhythm

Cit // Kit

Canolbwyntiwch ar sylwi, nid ar berffeithrwydd

Nid oes ffordd gywir nac anghywir o arsylwi a dogfennu. Mae pob ffordd yn ddefnyddiol, ni waeth pa mor aml y gallwch wneud. Hyd yn oed os mai ond yn achlysurol iawn y gallwch arsylwi, mae’n dal yn werthfawr, felly rhannwch da chi.

Cysylltwch â katie@dyffryndyfodol.com i ofyn unrhyw gwestiynau, i drafod syniadau ac i roi gwybod ble a sut rydych chi’n bwriadu arsylwi.

Focus on noticing, not perfection

There’s no right or wrong way of observing and documenting. All ways are useful, however often you’re able to do it. Even if it's a very occasional observation, it is still valuable, so please share.

Please get in touch with katie@dyffryndyfodol.com to ask any questions, discuss ideas and let her know where and how you plan to observe.